top of page
Image by Nathan Oakley

PANTGLAS

Datblygiad newydd hyfryd o 9 tŷ marchnad agored a 4 tŷ fforddiadwy o fewn pellter cerdded hawdd i ganol tref Caerfyrddin a’i holl fwynderau.

Gwaith adeiladu i ddechrau ym mis Hydref 2024.

 

Cysylltwch â ni nawr i gofrestru eich diddordeb.

Datblygiadau Moelfre

Mae lleoliadau  gwych, dyluniad cyffrous, gorffeniad rhagorol a thirlunio hardd i gyd yn nodweddion o ddatblygiad Cartrefi Moelfre Homes.. Am wybodaeth bellach am y cartrefi newydd hyfryd sydd gyda ni ar y gweill cysylltwch â'n Prif Swyddfa ar 01559 371589 neu darllenwch fwy am ein datblygiadau unigryw isod.

Site - Street Scene 03 Option c.png

Cae'r Winllan

GWBERT, ABERTEIFI, CEREDIGION, SA43 1FF

5 wedi gwerthu - 1 yn unig yn weddill

Un o ddatblygiadau mwyaf poblogaidd Cartrefi Moelfre Homes, gyda Ffês 1 a Ffês 2 Caerwgan yn gwerthu cyn i'r tai eu hunain gael eu hadeiladu. Bydd Ffês 3 yn gweld ychwanegu 9 cartref pellach i'r datblygiad, yn cynnwys dau gartref fforddiadwy.  Bydd y datblygiad arobryn hwn hefyd yn cynnwys maes chwarae gan roi'r cyfle i'r trigolion fwynhau'r awyr agored ymhellach. . 

CW_Logo_PNG_MONO_Tall.png
View 1.jpg

Caerwgan

ABERBANC, LLANDYSUL, CEREDIGION, SA44 5NQ

WEDI GWERTHU

Un o ddatblygiadau mwyaf poblogaidd Cartrefi Moelfre Homes, gyda Ffês 1 a Ffês 2 Caerwgan yn gwerthu cyn i'r tai eu hunain gael eu hadeiladu. Bydd Ffês 3 yn gweld ychwanegu 9 cartref pellach i'r datblygiad, yn cynnwys dau gartref fforddiadwy.  Bydd y datblygiad arobryn hwn hefyd yn cynnwys maes chwarae gan roi'r cyfle i'r trigolion fwynhau'r awyr agored ymhellach. . 

Long_cae rwgan.png
Plot 05 - 01.png

Cae Crug

PENRHIW-LLAN. LLANDYSUL, CEREDIGION, SA44 5NT

AR GAEL

Datblygiad atyniadol o saith o gartrefi chwaethus yng nghanol pentref gwledig Penrhiw-llan, drws nesaf i’r siop a gyferbyn a’r dafarn leol. Mae yma ddau gartref fforddiadwy a phump cartref teuluol pedair ystafell wely a gerddi hwylus. Gyda phob cartref wedi’i orffen i safon arbennig Cartrefi Moelfre Homes, a gwasanaeth bws hygyrch gerllaw, mae’r datblygiad hwn yn sicr o fod yn un hynod boblogaidd i brynwyr o bob oed.

CaeCrug_Long_Versions.png
Bottom-left-site_edited.jpg

Rhydargaeau

DAN Y DDERWEN A CLÔS YFEDW, SIR GAERFYRDDIN, SA32 7AZ

WEDI GWERTHU

Dyma un o ddatblygiadau mwyaf uchelgeisiol Cartrefi Moelfre Homes hyd yn hyn. Yn ddatblygiad tair ffês, mae Dan y Dderwen a Clôs y Fedw'n cynnig cyfuniad o gartrefi sengl a phâr moethus i deuluoedd, yn ogystal â chartrefi fforddiadwy. Bydd gwaith ar drydedd ffês y datblygiad yn dechrau cyn hir. Gyda lleoliad o fewn cyrraedd hwylus i dref farchnad hynafol Caerfyrddin a'i holl adnoddau, dyma le hyfryd iawn i osod gwreiddiau. 

Long_R.png
Wide_Image_edited.png

Caeberllan

ADPAR, CASTELLNEWYDD EMLYN, SA38 9NR

WEDI GWERTHU

Lleolir datblygiad Caeberllan ar ochr orllewinol pentref Adpar ar gyrion Castellnewydd Emlyn. Gyda golygfeydd godidog dros Ddyffryn Teifi, mae Caeberllan o fewn cyrraedd hawdd iawn ar droed i dref farchnad fendigedig Castellnewydd Emlyn gyda'i amrywiol siopau, caffis, bwytai, gwestai ac ysgolion. Mae'r datblygiad yn cynnwys deg cartref sengl chwaethus a dau gartref fforddiadwy.   

Long_Caeberllan.png

CYNLLUNIO

CREFFT

GWASANAETH

bottom of page