top of page
Site%252002-22_edited_edited.png

Cefndir y cwmni

Dros 25 mlynedd o arbenigedd adeiladu.

Ers ffurfio ym 1996 mae Cartrefi Moelfre Homes wedi parhau i ddatblygu ac esblygu i fod yn un o ddatblygwyr tai safonol gorau De Orllewin Cymru. Gyda phrosiectau bellach yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, mae Cartrefi Moelfre Homes yn adnabyddus am greu cartrefi moethus pwrpasol sydd wedi'u teilwra ar gyfer pob cleient.

 

 

15486344_edited.jpg

"Rydyn ni'n creu cartrefi sy'n mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau. Beth bynnag yw graddfa eich prosiect, gallwn sicrhau fod pob manylyn yn berffaith."

"Crefftwaith o'r safon uchaf yw ein nod - ac mae perffeithrwydd yn elfen hollbwysig o bob prosiect."

Yn naturiol, ein cleientiaid sydd wrth wraidd popeth a wnawn fel cwmni.. O ystyried hynny, ein nod angerddol yw canfod y safleoedd mwyaf dymunol, cynnig dylunwaith o'r radd flaenaf  a chreu gwerth drwy ddatblygu cynnyrch o'r radd flaenaf. Dyma'r egwyddorion sy'n sail barhaus i ethos Cartrefi Moelfre Homes.

 

Mae ein gwasanaeth datblygu mewnol cyflawn wedi'i deilwra i weddu i ofynion  pob cleient unigol. Gallwn gynnig popeth o'r cynllunio cychwynnol a dyluniadau pensaer, hyd at y gwaith adeiladu, y gosodiadau a'r dodrefnu, yr addurno a'r tirlunio.

 

Gyda'r cwmni'n ennill ac yn derbyn enwebiadau rheolaidd ar gyfer gwobrau safon o fewn y diwydiant adeiladu yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a  De Cymru, ein nod cyson yw cynnal a gwella safonau i'r eithaf, a thrwy hynny sicrhau gwasanaeth o'r ansawdd uchaf er boddhad i'n' holl gleientiaid.

house.jpg
cyngor_sir_gar.png
LABC.png
CERTIFICATES & AWARDS
cyngor sir ceredigion.png

Chwery ein tîm o grefftwyr lleol, lawer ohonynt wedi bod gyda ni ers sefydlu'r cwmni, ran ganolog wrth sicrhau'r safonau eithriadol y mae ein cleientiaid yn gofyn amdanynt.

DYLUNIO

CREFFT

GWASANAETH

bottom of page