top of page

Cartrefi Ffrâm Pren

Fel un o gontractwyr adeiladu mwyaf safonol Cymru o safbwynt cartrefi fframiau pren, gallwn gynnig ystod gynhwysfawr o becynnau wrth gyflenwi paneli ffrâm bren parod a chludadwy ar gyfer eich prosiect adeiladu. 

Pa mor fawr neu fychan bynnag eich gweledigaeth, mae ein holl ddyluniadau wedi'u cynllunio'n benodol i weddu i ofynion penodol ein cleientiaid. Gall ein harbenigwyr ffrâm bren gynnig arweiniad un i un drwy bob cam o'r broses adeiladu, gan roi hyder a sicrhau tawelwch meddwl  llwyr ein cleientiaid.

1. Ymgynghoriad Dylunio  

3. Adeiladu Ffrâm Pren

5. Gorffen Adeiladu 

2. Trafod  Hawliau Cynllunio

Codi ar y Safle

Fel contractwr adeiladu sefydledig a datblygwr eiddo o Gymru, rydym yn arbenigo mewn gwasanaeth adeiladu cyflawn o'r camau cynllunio cyntaf hyd at addurno a gosod popeth o fewn eich cartref newydd,  gan ddefnyddio'r deunyddiau cydnabyddiedig diweddaraf o fewn y diwydiant o safbwynt eiffeithiolrwydd.

Mae dewis cartref ffrâm pren o wneuthuriad Cartrefi Moelfre Homes yn ffordd hwylus ac effeithlon i’n cleientiaid ym mhob cwr o Gymru fuddsoddi yn eu dyfodol a dyfodol eu teuluoedd am genedlaethau i ddod..

Gyda gweithwyr proffesiynol profiadol wrth law i oruchwylio'r prosiect cyfan o'r dechrau I'r diwedd, gall ein cleientiaid ymlacio a rhoi eu traed i fyny yn gynt o lawer nag y gallent fod wedi dychmygu erioed.

Dylunio

Pwrpasol

Cynlluniau wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer cleientiaid unigol

Adeiladu Prydlon ac Effiethiol

Cyn lleied a chwe wythnos ar hugain o glirio'r safle i drosglwyddo'r allweddi. 

Arbenigedd

Eang

Gwybodaeth a dealltwriaeth eang ar sail blynyddoedd o brofiad.

Cydweithio

Gwych

Rheoli prosiect effeithiol gyda chefnogaeth a gwarant asiantaethau adeiladu megis LABC.

Gwasanaeth

Un i Un

Gwasanaeth gan arbenigwyr o fewn y cwmni all eich harwain drwy bob cam o'r broses adeiladu. 

bottom of page