top of page
Cover Image.png

Cyfreithiol

Eiddo Datblygiadau Moelfre Developments Cyf ("ni") yw'r wefan hon a'r cwmni hefyd sy'n ei rhedeg. Mae eich defnydd chi o'r wefan hon yn ddibynnol ar y telerau a'r amodau canlynol. Os nad ydych yn cytuno i'r amodau yma, ni ddylech ddefnyddio'r wefan hon. 

Mae Polisi Preifatrwydd Datblygiadau Moelfre Developments Cyf yn ffurfio rhan o'r telerau a'r amodau yma. 

Dylid cyfeirio pob cyswllt yn ymwneud â'r wefan hon at:: sales@moelfrehomes.co.uk

​

YMWADIAD

Er ein bod ni wedi cymryd pob cam rhesymol wrth ddatblygu'r wefan hon, nid ydym yn gwneud unrhyw honiad nac yn cynnig unrhyw warant o unrhyw fath (drwy fynegiant neu awgrym) yng nghyswllt gweithrediad a chynnwys y wefan hon, a chaiff unrhyw honiadau neu warnatau o'r fath eu heithrio o'r Rhybudd hwn. Ni allwn warantu y bydd y defnydd o'r wefan hon yn ddi-dor nac yn ddi-wall.  

Caiff y wefan hon a'r deunydd a gynhwyswir arni eu defnyddio ar eich risg eich hunan. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golledion na niwed, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. a wynebir gennych o ganlyniad i ddefnyddio'r wefan hon na'ch dibyniaeth ar gynnwys y wefan yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, wasanaeth cyfrifiadurol na methiant y system, oedi o safbwynt mynediad, amhariad ar y gwasanaeth, methiant derbyn data neu gam-gyfeiriad, feirysau cyfrifiadurol neu elfennau niweidiol eraill, problemau diogelwch neu ddefnydd anghydnabyddedig o'r system yn sgil 'hacio' neu fel arall. 

Mae'r wefan hon ar gael ar y sail (heblaw am yng nghyswllt twyll neu farwolaeth neu niwed personol yn sgil ein diofalwch ni), y caiff unrhyw gyfrifoldeb o gwbwl am golledion neu niwed sy'n digwydd oherwydd neu yng nghyswllt y defnydd o'r wefan hon neu ddibyniaeth ar gynnwys y wefan hon, ei eithrio i'r eithaf yn unol â'r gyfraith. 

Bydd unrhyw wall teipograffig, clerigol neu arall neu fethiant i gynnwys ar unrhyw dudalen sydd wedi'i phostio ar y wefan hon yn cael ei gywiro neu ei ddileu (yn ôl y gofyn) heb unrhyw gyfrifoldeb ar ein rhan ni. 

Rydym yn amddiffyn yr hawl I wneud newidiadau dirybudd i'r wefan hon ar unrhyw adeg a'ch cyfrifoldeb chi yw ailymweld â'r dudalen o dro i dro er mwyn ailddarllen yr hysbysiad hwn. Bydd unrhyw dermau diwygiedig yn weithredol o ddyddiad eu postio.

Mae cynnwys y wefan hon, unrhyw anghydfod sy'n codi o'r wefan, a'ch perthynas â ni yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr a Chymru ac yn disgyn dan lywodraethiant Llysoedd Lloegr a Chymru. 

 

HAWLFRAINT A NODAU MASNACH

Gallwch lawrlwytho, storio a defnyddio'r wybodaeth a gynhwyswir ar dudalennau'r wefan hon i'ch defnydd personol eich hunan ac mewn ymchwil ar eich cyfer chi neu eich cwmni. Ni chewch ailgyhoeddi, ailddarlledu, ailddosbarthu na chynnig y tudalennau i unrhyw brati arall na'i gynnwys ar unrhyw wefan, gwasanaeth ar-lein na hysbysfwrdd o'ch eddo chi nac unrhyw barti arall na throsglwyddo'r cynnwys i gopi caled nac unrhyw gyfrwng arall heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. 

Rhoddir caniatâd yn unig i wneud copi electronig a/neu argraffu copi caled o rannau o'r wefan yn unig ar gyfer dibenion personol di-fasnach. Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall o'r deunyddiau ar y wefan hon (yn cynnwys dibenion atgynhyrchu ar wahân i'r rhai a nodir uchod, ac addasiadau, dosbarthu neu ailgyhoeddi) yn llwyr. 

Ein hawlfraint ni yw pob cynllun, testun, graffeg, cod rhaglen ac mae'r modd y maent wedi eu trefnu dan hawlfraint ein trwyddedwyr. 

Ein heiddo ni neu eiddo eu perchnogion unigol yw pob nod masnach, enw brand, enw busnes neu logo sy'n cael eu cynnwys ar y wefan hon.

 

POLISI CYSYLLTIOL

Gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau eraill a all fod o ddiddordeb i chi. Nid ydym yn eu cymeradwyo nac yn eu derbyn a does gennym ddim cyfrifoldeb dros gynnwys unrhyw wefan sy'n gysylltiedig â'n gwefan ni drwy ddolenni gwefan. 

Ni roddwn ni na chyfranwyr i'r Stefan ein caniatâd  (drwy fynegiant nac awgrym)  i gysylltu na fframio unrhyw ran o'r cynnwys sy'n ymddangos ar y wefan na defnyddio cynrychiolaeth o unrhyw un o'n henwau, logos, nod masnach, enwau brand sy'n cael eu cynnwys ar y wefan hon. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod dolenni i'n tudalen hafan. 

​

bottom of page